GWASANAETH ALLGYMORTH GOFALWYR
Yn cynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin
Wyt ti’n edrych ar ôl rhywun?
Mae gofalwyr yn edrych ar ôl teulu, ffrindiau neu gymdogion yn rheolaidd. Ni all y bobl yma ymdopi heb y cymorth hwn. Mae’r cymorth maent yn cynnig yn ddi-dâl.
Mae’r Gwasanaeth Allgymorth yn cynnig cymorth ymarfeol ac emosiynol i’ch helpu i ymdopi â’ch rôl gofalu ac i weithio tuag at wella eich lles. Gallwn ymweld â chi yn y cartref a darparu cymorth hyblyg o fewn amser i gwrdd â’ch anghenion.


Wyt ti’n teimlo o dan bwysau?
Gallwn helpu gyda:
- Darganfod a chyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol
- Cyngor ar Hawliau Gofalwyr
- ‘Llywio’r system’ a mynediad at Asesiadau Anghenion Gofalwyr
- Ceisiadau am Grantiau Gofalwyr neu gronfeydd llesiannol
- Egwyliau seibiant
Rydym ni ar agor dydd Llun i ddydd Iau 9-5yh a dydd Gwener 9-4:30yh
Os am wybod mwy am ein gwasanaeth, cysylltwch â: