GWASANAETHAU DYDD
Canolfan Dydd Dementia Hafan Glyd
Mae Canolfan Dydd Dementia Hafan Glyd yn Ganolfan Dydd sy’n cynnig i bobl gyda dementia cyfle i gymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol a hamddenol ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn amgylchedd diogel.
Mae’r Canolfan Dydd yn manteisio’r gofalwr a’r person gyda dementia. Credem mae’n bwysig i ofalwyr cael egwyl wrth wybod mae’r person maen nhw’n gofalu drosodd yn mwynhau ac yn manteisio o gwmni eraill.
Mae ein rhaglen arferol o hwyl a gweithgareddau ysgogol yn cynnwys crefftau a jig-sos, cerdd a chanu,
Cyfeiriad: 5 Cambrian Court, Caerfyrddin, SA31 1AW
Clwb Cinio Llangennech
Pob dydd Mercher, darperir cinio yng Nghanolfan Cymunedol Llangennech i bobl sy’n derbyn gofal er mwyn rhoi egwyl i’r gofalwr. Ariannir y gwasanaeth hwn rhwng Cyngor Sir Gâr a Chyngor Cymunedol Llangennech i bobl sy’n byw yn ardal Llangennech yn unig. Mae’r clwb hwn wedi’i threfnu gan Groesffyrdd.
Mae Clwb Cinio Llangennech wedi’i rheoli gan Thelma Lewis sydd gan bron 30 blynedd o brofiad yn gweithio gyda Chroesffyrdd.
Mae yna lawer o weithgareddau sy’n cymryd lle yn ystod y dydd. Mae’r rhain yn cynnwys bingo, raffl a chardiau. Ar wahân i’r gweithgareddau, mae’n rhoi cyfle i bobl cwrdd ag eraill i gymdeithasu a dal lan gyda beth sy’n digwydd yn y gymuned leol. Bydd trafnidiaeth yn cael ei drefnu o ddrws i ddrws.
Os ydych chi neu rywun chi’n gwybod â diddordeb mewn mynychu Clwb Cinio Llangennech, cysylltwch â Swyddfa Llanelli ar 01554 754957
Cyfeiriad: I ffwrdd o Hendre Road, Ar bwys y Bridge End Inn, Llangennech, SA14 8TH
Canolfan Dydd Penwythnos Llys y Bryn
Ystyr y gwasanaeth hwn yw gofalu dros bobl sy’n derbyn gofal mewn amgylchedd canolfan dydd er mwyn caniatáu i’r gofalwr cael egwyl am y dydd, ond i hefyd rhoi newid mewn amgylchedd i’r person sy’n derbyn gofal ac i roi’r cyfle i gymdeithasu. Mae’r canolfan dydd penwythnos wedi’i lleoli yn Llanelli ac mae Cyngor Sir Gâr yn ariannu’r gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei rhedeg yng Nghanolfan Dydd Llys Y Bryn, Bryn Llanelli pob penwythnos. Gallem letya pobl gydag amrywiaeth o anableddau a gallent gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau sydd ar gael. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys Raffl, Bingo, Cwis, ayyb. Ar wahân o weithgareddau, mae’r bobl sy’n dod yn gallu sgwrsio gyda phobl eraill eu hoedran a chael hwyl.
Os ydych chi neu rywun chi’n gwybod â diddordeb mewn mynychu ein Gwasanaeth Dydd Penwythnos, cysylltwch â Swyddfa Llanelli ar 01554 754957
Cyfeiriad: Llys y Bryn, Gelli Deg, Llanelli, SA14 9AD