Buddsoddwyr mewn Gofalwyr

Beth yw'r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr?

Mae’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn gynllun arobryn ar gyfer Hywel Dda a Chymru sy’n annog pob meddygfa a ‘lleoliad’ arall ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro i fabwysiadu a llywio’r arferion gorau a gwasanaethau cymorth i Ofalwyr.

Mae’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr (IiC) yn gynllun sicrhau ansawdd sydd â safonau sy’n seiliedig ar themâu, proses archwilio, proses ardystio, a gwobrau – sy’n cydnabod arfer gorau. Fe’i cynlluniwyd i’w ddefnyddio ar draws amrywiaeth eang o ‘leoliadau’ (h.y. meddygfeydd, llyfrgelloedd ac ati) ac mae angen casglu ffolder o dystiolaeth.

Mae’r cynllun yn cynnwys Gofalwyr o bob oed a sefyllfa;

  • Gofalwyr Ifanc o dan 18 oed,
  • Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc rhwng 18 a 25,
  • Rhieni Gofal sy’n gofalu am blentyn ag anabledd neu broblem iechyd meddwl,
  • Brodyr a Chwiorydd sy’n Ofalwyr,
  • Pobl hŷn sy’n gofalu am ei gilydd ac ati.

Mae’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofal yn adnodd ar gyfer helpu iechyd, gofal cymdeithasol, y 3ydd sector, a mudiadau eraill i wella a chanolbwyntio ar eu ‘Hymwybyddiaeth o Ofalwyr’ – a’r help a’r gefnogaeth a roddant i Ofalwyr.

Investors in Carers Gold Logo

Mae gan y cynllun chwe safon sy’n seiliedig ar themâu sy’n symud trwy’r lefelau o Efydd, Arian ac Aur:

Lefel Aur
Mae’r lleoliad wedi arddangos dealltwriaeth uwch o faterion yn ymwneud â gofalwyr, ac mae wedi mabwysiadu newid diwylliannol, datblygu ymagwedd ochrol at gefnogi gofalwyr, ynghyd â dangos canlyniadau.

Lefel Arian
Mae’r lleoliad wedi arddangos ymrwymiad gweithredol at y cynllun buddsoddwyr mewn gofalwyr ac wedi datblygu ymagwedd ragweithiol at gefnogi gofalwyr, ac mae’n gallu dangos canlyniadau, lle bo hynny’n briodol.

Lefel Efydd
Mae’r lleoliad wedi arddangos ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â gofalwyr ac mae’n gallu nodi, cefnogi, a chyfeirio gofalwyr at gymorth.

Disgwylir i bob lleoliad ddatblygu ‘Datganiad Effaith Gofalwyr’ sy’n diffinio eu bwriad yn glir o ran yr hyn a wnânt i gefnogi Gofalwyr.   Dylai hyn hefyd gynnwys amlinelliad o ddemograffeg y lleoliad. Mae templed ac enghreifftiau wedi’u darparu i gynorthwyo’r lleoliad. Dylai hyn gael ei lofnodi gan reolwr y lleoliad a’i adolygu bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben.

Mae angen i leoliadau gasglu tystiolaeth yn erbyn pob un o’r safonau sy’n seiliedig ar themâu mewn portffolio a fydd, yn ei dro, yn cael ei asesu. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y lleoliad yn derbyn y dystysgrif berthnasol i’w harddangos, a fydd yn para dwy flynedd cyn y bydd angen ail-ddilysu’r lefel.

Dim ond yn rhanbarth Hywel Dda Gorllewin Cymru y mae’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr ar gael ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth o dan grŵp datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru a Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru.

Am fanylion pellach am y cynllun a sut i gymryd rhan, cysylltwch â:

Pennie Muir, Rheolwr Cymorth Prosiect Rhanbarthol – Gofalwyr: pennie.muir@wales.nhs.uk

Debbie Bence, Swyddog Datblygu: debbie.bence@wales.nhs.uk

Rhian Glynn, Swyddog Datblygu: rhian.glynn@wales.nhs.uk

Abby White, Cynorthwy-ydd Gweinyddol: abby.white@wales.nhs.uk

Fel arall, gwelod isod:


Swyddfa Llanelli

The Palms Unit 3
96 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TH
0300 0200 002

Rhif elusen gofrestredig 1121666
© 2024 Carers Trust Crossroads West Wales. Cedwir pob hawl.
Edrychwch ar Ein Polisi Prefrwydd

Carers Trust Crossroads West Wales yn gwmni cyfyngedig trwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr 6199277