Cymorth Gofalwyr Sir Benfro

CYMORTH GOFALWYR SIR BENFRO

Gallwn ddarparu cefnogaeth i’ch helpu i reoli eich rôl ofalu a gweithio tuag at wella lles. Er mwyn eich helpu i gael mynediad at y gwasanaeth hwn, gallwn ymweld â chi gartref a darparu cymorth hyblyg, â chyfyngiad amser i ddiwallu eich anghenion unigol.

Mae gofalwyr di-dâl yn gofalu am berthnasau, ffrindiau neu gymdogion yn rheolaidd, na allent ymdopi heb y cymorth hwnnw. Mae'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yno i'ch cefnogi.

Lady with walking frame

Gwybodaeth a Chymorth

Rydym yn darparu cymorth personol un-i-un, yn cynnig taflenni ffeithiau, cymorth i lywio’r system, cyngor ar hawliau gofalwyr, mynediad i Asesiad Anghenion Gofalwyr, ac arweiniad ar gynllunio at argyfwng, gofal wrth gefn, a chysylltu â gwasanaethau arbenigol.

Man carrying flowerpots

Grantiau a chyfleoedd

Rydym yn cynnig cyfleoedd i ofalwyr wneud cais am grantiau i gael mynediad at seibiannau byr, gofal seibiant neu ofal amgen yn ogystal â grantiau ar gyfer nwyddau gwyn hanfodol a thalebau bwyd pan fo gofalwyr yn profi caledi ariannol.

Cyngor cyfreithiol

Rydym yn cynnig cymorthfeydd cyngor cyfreithiol misol rhad ac am ddim trwy New Law Solicitors, yn ymdrin â phynciau fel cyllid ar gyfer gofal, ewyllysiau ac ymddiriedolaethau, Atwrneiaeth Arhosol, a diogelu asedau. Cefnogaeth ar gael trwy apwyntiad yn unig.

Funded by

Mewn partneriaeth â

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg mewn cydweithrediad â Chymorth Gofalwyr Gorllewin Cymru, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn  Cymorth Gofalwyr Sir Benfro.

Cael Cefnogaeth

Ymunwch â grwpiau cymorth i ofalwyr, gyda’r nod o wella lles a darparu cymorth y mae mawr ei angen, neu gael mynediad at y gwasanaethau eraill a gynigiwn.

Defnyddiwch ein ffurflen atgyfeirio ar-lein i ddweud wrthym amdanoch chi a’ch amgylchiadau a byddwn yn cysylltu â chi’n awtomatig.

Gerdyn Cydnabod Gofalwyr

Beth am wneud cais am Gerdyn Cydnabod Gofalwyr heddiw?

Mae’r Cerdyn yn helpu gofalwyr i gael eu cydnabod gan staff Iechyd, Gofal Cymdeithasol a phroffesiynol, y sectorau statudol a gwirfoddol, yn ogystal â busnesau ledled y Sir sy’n cynnig consesiynau i ofalwyr sydd wedi cofrestru gyda Chymorth i Ofalwyr Sir Benfro.

Image of downloadable leaflet

Fel arall, cysylltwch â’r tîm a rhowch eich gwybodaeth dros y ffôn ymlaen drwy e-bost ar 0300 0200 002 neu carerssupportpembs@ctcww.org.uk


Swyddfa Llanelli

The Palms Unit 3
96 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TH
0300 0200 002

Rhif elusen gofrestredig 1121666
© 2025 Carers Trust Crossroads West Wales. Cedwir pob hawl.
Edrychwch ar Ein Polisi Prefrwydd

Carers Trust Crossroads West Wales yn gwmni cyfyngedig trwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr 6199277