Cyngor Budd-daliadau CATCHUP

GWASANAETH CYNGOR AR FUDD-DALIADAU CATCHUP

Deallwn bwysigrwydd cael mynediad at y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnoch i lywio byd cymhleth budd-daliadau. Beth bynnag fo’ch rôl gofalu di-dâl, rydym yma i ddarparu cyngor arbenigol a chynhwysfawr ar fudd-daliadau sydd wedi’i deilwra i’ch sefyllfa unigryw.

I gael mynediad at y gwasanaeth hwn, rhaid eich bod yn byw yn Sir Gaerfyrddin.

Stack of £1 coins on an orange background

Ymgynghoriad Cychwynnol:

Cysylltwch â ni i drefnu ymgynghoriad cychwynnol lle byddwn yn trafod eich amgylchiadau a’ch anghenion.

two people working together with paper and pen

Asesiad

Bydd ein hymgynghorwyr yn cynnal asesiad trylwyr i nodi’r budd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt.

two adults working together with a laptop computer

Cymorth ac Arweiniad

Byddwn yn darparu cymorth ac arweiniad parhaus trwy gydol y broses ymgeisio, gan sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch.

Dad and two children sitting on sofa with a dog on their lap

Dilyniant:

Ar ôl i’ch budd-daliadau gael eu dyfarnu neu os bydd unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, byddwn yn parhau i’ch cefnogi gydag unrhyw gamau dilynol angenrheidiol.

Sut ydym yn gweithio

Asesiad Personol o Fudd-daliadau

Bydd ein cynghorwyr profiadol yn cynnal asesiad personol o’ch amgylchiadau i bennu’r budd-daliadau y gallech fod yn gymwys i’w cael. Byddwn yn ystyried ffactorau fel eich cyfrifoldebau gofalu, budd-daliadau cyfredol, incwm, cynilion a phensiwn, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Cymorth gydag Ymgeisio am Fudd-daliadau

Gall llywio’r broses ymgeisio am fudd-daliadau fod yn frawychus, ond nid oes rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun. Bydd ein tîm yn eich arwain trwy bob cam o’r broses ymgeisio, gan eich helpu i gasglu’r dogfennau angenrheidiol, cwblhau a chyflwyno’ch cais yn gywir ac ar amser.

Cymorth gydag Apeliadau Budd-daliadau

Os gwrthodir eich cais am fudd-dal neu os ydych chi’n anhapus â’r penderfyniad, gallwn ddarparu cymorth gyda’r broses apelio. Bydd ein cynghorwyr yn eich helpu i ddeall y rhesymau dros y penderfyniad ac yn eich cynorthwyo i baratoi apêl rymus er mwyn cynyddu eich siawns o lwyddo.

Gwneud y Mwyaf o Fudd-daliadau

Byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt drwy gynnal adolygiadau rheolaidd o’ch amgylchiadau. Os bydd newidiadau yn eich sefyllfa neu os daw budd-daliadau newydd ar gael, byddwn yn eich helpu i ddiweddaru eich hawliadau i sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o’ch hawliau.

Fel aelodau o MoneyHelper, gallwn rannu’r gyfrifiannell fudd-daliadau wych hon gyda chi.

Defnyddiwch y gyfrifiannell i ddarganfod yn gyflym yr hyn y gallech fod â hawl iddo.

Eich Preifatrwydd a Chyfrinachedd

Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod unrhyw wybodaeth a roddwch yn ystod eich ymgynghoriad yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Rydym yn cadw at brotocolau a rheoliadau preifatrwydd llym i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac ariannol.

Cyfrifiannell budd-daliadau

Fel aelodau o MoneyHelper, gallwn rannu’r gyfrifiannell fudd-daliadau wych hon gyda chi.

Defnyddiwch y gyfrifiannell i ddarganfod yn gyflym yr hyn y gallech fod â hawl iddo.

You may find these services helpful:

Ein heffaith

Cefnogwyd 1752 o Ofalwyr: Mae pob unigolyn rydym yn ei gynorthwyo yn cynrychioli stori, brwydr, ac ymrwymiad i ofalu am eu hanwyliaid. Mae’n anrhydedd i ni allu darparu cymorth personol i 1752 o ofalwyr a’u teuluoedd drwy gydol y flwyddyn.

Sicrhawyd £2,999,527 o Incwm Blynyddol: Mae ein hymdrechion wedi troi’n gymorth ariannol diriaethol i ofalwyr, gan sicrhau eu bod yn cael y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae’r incwm blynyddol sylweddol hwn yn cyfrannu’n uniongyrchol at leddfu’r baich ariannol a gwella llesiant gofalwyr a’u teuluoedd.


Swyddfa Llanelli

The Palms Unit 3
96 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TH
0300 0200 002

Rhif elusen gofrestredig 1121666
© 2025 Carers Trust Crossroads West Wales. Cedwir pob hawl.
Edrychwch ar Ein Polisi Prefrwydd

Carers Trust Crossroads West Wales yn gwmni cyfyngedig trwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr 6199277