Digwyddiadau
DIWRNOD HAWLIAU GOFALWYR 2020
Fel rhan o Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr eleni, mae’n bleser gennym gyflwyno
“Hawliau Gofalwyr a’r Gyfraith” gan ein Hareithydd Cyweirnod
Yr Athro Luke Clements
Gwyliwch y fideos o’i gyflwyniad isod, ynghyd â chyflwyniad gan ein PSG, Alison Harries.
Mae ffigyrau newydd a gyhoeddwyd ar gyfer Wythnos Gofalwyr (8fed – 14eg o Fehefin 2020) yn dangos bod ffigwr amcan o 4.5 miliwn o bobl yn y DU wedi dod yn Ofalwyr di-dâl, o ganlyniad i bandemig Covid-19.
Mae hyn ar ben y 9.1 miliwn o Ofalwyr di-dâl a oedd eisoes yn gofalu cyn y cychwyniad, gan ddod â’r cyfanswm i 13.6 miliwn.
Mae 2.7 miliwn o fenywod (59%) ac 1.8 miliwn o ddynion (41%) wedi dechrau gofalu am berthnasau sy’n hŷn, yn anabl neu’n byw gyda salwch corfforol neu feddyliol.
Yn nodweddiadol, byddant wedi bod yn cynorthwyo anwyliaid o bell, yn helpu gyda’r siopa bwyd, casglu meddyginiaeth, rheoli arian a rhoi cysur a chefnogaeth emosiynol yn ystod y pandemig.
Bydd rhai wedi ymgymryd â rolau gofalu dwys, gan helpu gyda thasgau megis gofal personol, symud o amgylch y cartref, rhoi meddyginiaeth a pharatoi prydau bwyd.
Mae 2.8 miliwn o bobl (62%), sydd wedi dechrau gofalu ers y cychwyniad, yn ceisio cydbwyso eu gwaith cyflogedig a’u cyfrifoldebau gofalu, gan amlygu’r angen i gefnogi Gofalwyr sy’n gweithio wrth iddynt ddychwelyd i swyddfeydd a safleoedd gwaith.
Mae’r chwe elusen sy’n cefnogi Wythnos Gofalwyr – Carers UK, Age UK, Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor, Oxfam GB a Rethink Mental Illness – yn galw ar Lywodraeth y DU i gydnabod a chodi ymwybyddiaeth o’r rôl mae Gofalwyr di-dâl yn ei chwarae yn ystod y pandemig, ac i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi drwyddo, a thu hwnt.
Mae Gofalwyr di-dâl (71%) ac oedolion heb gyfrifoldebau gofalu (70%) wedi dweud mai rheoli’r straen a’r cyfrifoldeb o fod yn Ofalwr di-dâl oedd / byddai yr her fwyaf wrth ofalu. Mae teuluoedd dan bwysau enfawr wrth geisio rheoli eu rolau gofalu, ac yn poeni sut y byddant yn ymdopi yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.
Mae pôl piniwn o fwy na 4,000 o aelodau’r cyhoedd yn y DU, dros 18 oed, yn dangos bod Gofalwyr di-dâl wedi dod yn fwy gweladwy o fewn cymdeithas ers i’r pandemig gychwyn. Mae yna gydsyniad ymhlith y mwyafrif y dylai Gofalwyr di-dâl dderbyn mwy o gymorth gan y Llywodraeth nag y maen nhw ar hyn o bryd.
- Dywedodd bron hanner (48%) y cyhoedd nad sydd wedi gofalu erioed eu bod yn fwy ymwybodol o Ofalwyr di-dâl nag oedden nhw cyn y cychwyniad.
- Nid oedd dros dwy ran o dair (69%) o’r cyhoedd yn credu bod Gofalwyr di-dâl wedi derbyn cymorth gan y Llywodraeth yn ystod yr argyfwng.
- Roedd tri chwarter (75%) y cyhoedd o’r farn y dylai’r Llywodraeth gynyddu’r cymorth a roddir i Ofalwyr di-dâl: megis gwell cymorth ariannol, yn ogystal â buddsoddi mewn gwasanaethau gofal a chymorth, fel y gall Gofalwyr gymryd seibiant.
Wythnos Gofalwyr yn Sir Gaerfyrddin
Yn ystod Wythnos Gofalwyr 2020, mae Rhwydwaith Gwasanaethau Cymorth i Ofalwyr Sir Gaerfyrddin yn gwahodd gwasanaethau iechyd a gofal, ysgolion, cyflogwyr a busnesau ledled y gymuned, i gydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan Ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Rhwydwaith Gwasanaethau Cymorth i Ofalwyr Sir Gaerfyrddin yn gynghrair o fudiadau, gan gynnwys y Gymdeithas Strôc, Macmillan a’r Gymdeithas Alzheimer’s, sy’n gweithio gyda Gofalwyr yn Sir Gaerfyrddin. Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, mae’r rhwydwaith eleni’n trefnu ymgyrch rithwir, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.