Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2021
Bob blwyddyn, mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn ein helpu: sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o’u hawliau, rhoi gwybod i ofalwyr ble i gael help a chefnogaeth ac i godi ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr.
Canolbwyntiodd Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2021 ar godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl.
Trefnodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru (YGCGC), mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Gwasanaethau Cymorth Gofalwyr (RGCG) a Chyngor Sir Gaerfyrddin, ddigwyddiad dathlu i ofalwyr ym Mharc Y Scarlets. Pwrpas y digwyddiad oedd cydnabod y gwaith ymroddedig a’r ymrwymiad y mae gofalwyr di-dâl yn eu rhoi yn Sir Gaerfyrddin.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar 25ain o Dachwedd ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr a rhoddodd diwrnod llawn a chyffrous o gyflwyniadau a gweithdai gyfle i ofalwyr gael gafael ar wybodaeth arbenigol ynghyd â chyfarfod â gofalwyr eraill.
Wedi eu hymuno â llu o siaradwyr eleni, rydym yn falch o rannu rhai o’r cyflwyniadau i gyfeirio’n ôl atynt:
Bethan Davies, o Age Cymru Dyfed yn trafod Lwfans Gofalwyr
Adrian Nicholas o Hafal yn darparu awgrymiadau a chyngor i arbed arian
Hareithyddion Cyweirnod 2021
Anna Bird & Avril Bracey yn cyflwyno
“Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru a Diweddariad ar Wasanaethau Dydd / Darpariaeth Gofal Seibiant”
Beth Evans o Ofalwyr Cymru yn esbonio “Hawliau Gofalwyr”
DIWRNOD HAWLIAU GOFALWYR 2020
Fel rhan o Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr eleni, mae’n bleser gennym gyflwyno
“Hawliau Gofalwyr a’r Gyfraith” gan ein Hareithydd Cyweirnod
Yr Athro Luke Clements
Gwyliwch y fideos o’i gyflwyniad isod, ynghyd â chyflwyniad gan ein PSG, Alison Harries.