Ein Gwasanaeth Taladwy

Ein Gwasanaeth Taladwy

 

Rydym yn fudiad du-elw sy’n bwriadu darparu gwasanaeth y gallwch ddibynnu arno i bob gofalwr, a’r person dan eu gofal, mewn ffordd sydd wedi’i gynllunio’n benodol iddyn nhw. Gall ein Gweithwyr Cefnogi Gofalwyr wneud eich gwaith gofalu yn eich lle er mwyn rhoi seibiant i chi. Gallwn roi’r gwasanaeth yma i chi’n rheolaidd neu dim ond pan fyddwch chi’n teimlo ei angen.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru yn cynnig gwasanaeth taladwy sy’n golygu y gallwch ddewis talu’n uniongyrchol am eich gwasanaeth neu ychwanegu oriau ychwanegol i’ch pecyn gofal sydd wedi’i gyllido’n barod.

Gall ein Gweithwyr Cefnogi Gofalwyr helpu gydag amrywiaeth eang o dasgau o fewn y cartref, fel gofal personol gyda chawod/bath, gwisgo, bwydo, helpu i fynd i mewn ac allan o’r gwely, casglu, cyflawni a rhoi meddyginiaeth, cludiant i apwyntiadau/clybiau, helpu gyda’r siopa a gwaith tŷ, ayyb. Gall ein Gweithwyr Cefnogi Gofalwyr hefyd aros dros nos i roi tawelwch meddwl neu noson dda o gwsg i chi, neu i roi cyfle i chi fynd i ffwrdd am y noson.

Mae hyn yn wasanaeth cyson, dibynadwy o safon uchel y gallwn ei ddarparu unrhyw le yn Sir Gaerfyrddin neu Ceredigion yn ystod y dydd, gyda’r nos, ar y penwythnos neu dros nos. Gyda’n gilydd, gallwn lunio pecyn gofal sy’n addas i chi.

Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â sut gall ein gwasanaeth taladwy helpu gyda chymorth a chefnogaeth ychwanegol yn eich cartref, cysylltwch ein Swyddfa Llanelli

Swyddfa Llanelli

The Palms Unit 3
96 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TH
0300 0200 002

Rhif elusen gofrestredig 1121666
© 2025 Carers Trust Crossroads West Wales. Cedwir pob hawl.
Edrychwch ar Ein Polisi Prefrwydd

Carers Trust Crossroads West Wales yn gwmni cyfyngedig trwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr 6199277