Gofal Cartref

Ein gwasanaeth GOFAL CARTREF

DECHREUWCH EICH GYRFA YMA – rydym yn recriwtio

Rydym ni gyd yn jyglo bywydau prysur, ond os ydych yn edrych ar ôl ffrindiau a theulu sy’n dost, eiddil neu’n anabl, efallai rydych yn gweld yn anodd iawn i fyw bywyd eich hun. Gall Croesffyrdd helpu.

Gall edrych ar ôl eraill bod yn dasg heriol. Gall hyn gwneud effaith fawr ar fywyd y gofalwr, fel rhoi’r gorau i swydd a bywyd cymdeithasol i gefnogi’r person maent yn gofalu drosodd. Er bod gymaint o ofalwyr yn gallu defnyddio gwasanaethau cymorth, mae gymaint yn brwydro ar ben ei hun heb gefnogaeth.

Rydym yn darparu gofal i gofalwyr di-dâl  sy’n gofalu am aelodau o’r teulu ac ffrindiau sy’n angen cymorth gofal a phersonol.

Cwbl Hyfforddedig

Mae staff gofal Croesffyrdd wedi’u hyfforddi’n dda ym mhob agwedd ar ofal ymarferol ac maent yn sensitif i’r anghenion emosiynol sy’n gysylltiedig â rhoi gofal. Maent yn weithwyr proffesiynol cofrestredig ymroddedig gyda chyfoeth o wybodaeth a phrofiad.

Rheoleiddiedig

Arolygiaeth Gofal Cymru yw’r corff rheoleiddio sy’n arolygu ac adrodd ar leoliadau gofal, gan gynnwys Gofal Croesffyrdd, yng Nghymru. Mae eu hadroddiadau yn gyhoeddus ac ar gael ar-lein.

Gwiriad DBS

Rydym yn cadw at brotocolau recriwtio mwy diogel llym. Hefyd, mae gan yr holl staff gofal wiriadau uwch cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac maent wedi’u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, gan sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion i weithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Teilwredig ar eich cyfer chi

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad, gall cynllun gofal wedi’i deilwra sy’n seiliedig ar anghenion yr unigolyn, a ddarperir gan staff hyfforddedig a chymwys, weithio gyda’ch ffordd o fyw a helpu i ddarparu mwy o ddewis a rheolaeth wrth fyw’n annibynnol.

Gwasanaethau Gofal Rheoleiddiedig

Two people with hot drinks looking to the distance

Gwasanaethau Rheoleiddiedig

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad, rydym yn cynnig gofal a chymorth i unigolion yn y gymuned, gan eu cynorthwyo i barhau i fyw yn eu cartref eu hunain.

Rydym yn darparu gwasanaethau gofal amgen i oedolion a phlant, wedi’u teilwra i anghenion unigol trwy gynlluniau gofal personol. Mae ein gweithwyr cymorth gofal yn cynorthwyo unigolion ag amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys anableddau corfforol, problemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, dementia, clefyd Alzheimer, a chyflyrau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd.

parent and young child embrace

Cymorth mewn Argyfwng

Os bydd sefyllfaoedd annisgwyl yn codi, gallwn ddarparu gweithiwr cymorth gofal i gynorthwyo yn ôl yr angen.

Mae ein staff yn deall ac yn mynd i’r afael ag anghenion a theimladau gofalwyr a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Maent yn rhoi sylw i’r manylion sy’n bwysig, gan ddangos proffesiynoldeb a’u nod yw ffitio’n naturiol i’ch bywyd bob dydd

Mae pob aelod o staff yn gwbl hyfforddedig ac yn cael hyfforddiant gloywi yn ôl yr angen.

Gwasanaethau Gofal Heb eu Rheoleiddio

Gwasanaeth Cymorth Cartref Cymunedol

Rydym yn cefnogi unigolion i gynnal eu hannibyniaeth o fewn y gymuned ar adegau o angen cynyddol. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer pobl nad ydynt yn gymwys i gael gofal cymdeithasol a chymorth ond y gallai eu hanghenion waethygu heb ymyrraeth. Mae’r gwasanaeth ar gael i’r rhai sydd angen cymorth ymarferol i sicrhau trosglwyddiad esmwyth o’r ysbyty i’r cartref, osgoi gorfod mynd i’r ysbyty, neu osgoi gorfod mynd at ofal statudol. Mae hefyd ar gael i unigolion sy’n camu i lawr o ofal statudol.

Gwasanaeth tymor byr yw hwn, gan ddarparu cymorth ymarferol am hyd at 4 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y gwasanaeth yn gweithio gyda’r unigolyn i ddatblygu cynllun llesiant, gan osod nodau a chanlyniadau realistig i’w cyflawni.

Gellir gwneud atgyfeiriadau dros y ffôn neu drwy e-bost.
Cysylltir cyn pen 4 awr o dderbyn atgyfeiriad.

Fwy o Gwybodaeth

Ein Heffaith

Yn ystod 2022–2023, cynhaliwyd 38,181 o ymweliadau yn 2022–2023, gan gefnogi 705 o ofalwyr di-dâl.

Treuliodd ein Gweithwyr Cymorth Gofal 107,074 o oriau yn y gymuned, yn cefnogi’r rhai oedd angen gofal.

Rhowch adolygiad


Swyddfa Llanelli

The Palms Unit 3
96 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TH
0300 0200 002

Rhif elusen gofrestredig 1121666
© 2024 Carers Trust Crossroads West Wales. Cedwir pob hawl.
Edrychwch ar Ein Polisi Prefrwydd

Carers Trust Crossroads West Wales yn gwmni cyfyngedig trwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr 6199277