Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Sir Gâr

Mae gofalwyr yn dweud bod mynediad i wybodaeth, cymorth cyllidol ac egwyl wrth ofalu yn hanfodol i helpu nhw rheoli’r effaith mae gofalu yn gwneud ar eu bywydau.

Darparir Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i Ofalwyr. Rydym yn cynhyrchu a dosbarthu gwybodaeth i ofalwyr ac yn trefnu digwyddiadau cyson mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill.

Mae ein cylchlythyr ar y chwarter, Newyddion Gofalwyr Sir Gâr, yn anelu i hysbysu Gofalwyr a’r bobl maent yn cefnogi amdano faterion polisi, gwasanaethau a sefydliadau sy’n gallu bod yn help iddynt.

Cliciwch yma i weld a lawrlwytho rhestr o daflenni ffeithiau defnyddiol 

Yn ychwanegol i’r wybodaeth rydym yn cynhyrchu, rydym yn trefnu digwyddiadau cyson i Ofalwyr yn cynnwys boreau coffi, grwpiau ffocws, a digwyddiadau blynyddol i farcio Wythnos Genedlaethol Gofalwyr ym mis Mehefin a Diwrnod Hawliau Gofalwyr ym mis Tachwedd.

Ariannir y gwasanaeth gan Gyngor Sir Gâr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r gwasanaeth allgymorth yn gallu helpu gofalwyr i optimeiddio ansawdd bywyd a lles i alluogi iddynt i barhau bod yn effeithiol yn ei rôl gofalu

Mae ein tîm o Weithwyr Allgymorth Gofalwyr yn brofiadol mewn darparu cymorth un-i-un i ofalwyr gyda gwybodaeth ddiweddaraf amdano’r gwasanaethau cymorth amrywiol i ofalwyr a’r bobl maent yn cefnogi

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cyfan Sir Gaerfyrddin ac mae apwyntiadau yn gallu cael ei drefnu yn eich cartref neu mewn lleoliad arall

Sut gallaf drefnu apwyntiad gyda Gweithiwr Allgymorth Gofalwyr?

Trwy ffonio Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr ar 0300 0200 002 neu trwy e-bostio info@carmarthenshirecarers.org.uk

Gallech ofyn am apwyntiad trwy gofrestru fel gofalwr gan eich Meddygfa Meddygon Teulu (GP) trwy ffurflen gofrestru Buddsoddwyr mewn Gofalwyr

Buddsoddwyr mewn Gofalwyr

Mae’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn gynllun arobryn ar gyfer Hywel Dda a Chymru sy’n annog pob meddygfa, ysbytai, ysgolion a ‘lleoliad’ arall ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro i fabwysiadu a llywio’r arferion gorau a gwasanaethau cymorth i Ofalwyr.

Gofynnir i leoliadau ddarparu ffolder tystiolaeth ar draws chwe thema allweddol er mwyn cael achrediad cydnabyddedig:

  1. Arweinydd Gofal
  2. Hyfforddiant Staff
  3. Nodi Gofalwyr Di-dâl
  4. Gwybodaeth i Ofalwyr Di-dâl
  5. Cefnogaeth i Ofalwyr Di-dâl (gan gynnwys staff sy’n Ofalwyr)
  6. Gwerthusiad o’r gefnogaeth a roddir i Ofalwyr Di-dâl

 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, neu cysylltwch â:

Pennie Muir, Rheolwr Cymorth Prosiect Rhanbarthol – Gofalwyr: pennie.muir@wales.nhs.uk

Debbie Bence, Swyddog Datblygu: debbie.bence@ctcww.org.uk

Abby White, Cynorthwy-ydd Gweinyddol: abby.white@ctcww.org.uk


Swyddfa Llanelli

The Palms Unit 3
96 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TH
0300 0200 002

Rhif elusen gofrestredig 1121666
© 2024 Carers Trust Crossroads West Wales. Cedwir pob hawl.
Edrychwch ar Ein Polisi Prefrwydd

Carers Trust Crossroads West Wales yn gwmni cyfyngedig trwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr 6199277