Cyfleoedd Gyrfa gyda Ni
Credem mai ein henw da am ragoriaeth mewn gofal, ynghyd â ein hymrwymiad i staff sy'n gosod ni ar wahân o sefydliadau eraill ac sy'n gwneud ni yn lle gwych i weithio
Pam dylech weithio gyda ni:
Staff Cyfeillgar • Amgylchedd Gweithio Croesawgar • Oriau Gweithio Hyblig • Cyfraddau Cyflog Cystadleuol • Hyfforddiant a Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd am ddim • Tâl Gwyliau • Oriau dan Gontract • Cyfle i astudio Cymwysterau • Dilyniant Gyrfa o fewn y Cwmni • Cerdyn disgownt NUS • Pensiwn Cyfrannol • Datblygiad Personol Parhaus • Cwnsela a Chefnogaeth Gweithwyr
Swyddi Gwag Cyfredol
Gweithiwr Achos Cleientiaid
Mae cyfle cyffrous a heriol wedi codi i ymuno â’n tîm ymroddedig o eiriolwyr annibynnol trwy gyflawni rôl hanfodol gweithiwr achos cleientiaid yn ein Pwynt Cyswllt Unigol.
Amser llawn gyda chyllid sefydledig dros y tymor hir, trefniant hybrid i weithio gartref ac yn y swyddfa, gyda’r angen i gynnal ymweliadau cymunedol o bryd i’w gilydd.
Mae Advocacy West Wales-Eiriolaeth Gorllewin Cymru yn ddarparwr blaenllaw gwasanaeth eiriolaeth annibynnol yng Ngorllewin Cymru.
Os ydych chi:
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, ffôn, TG a threfnu rhagorol,
- Yn siaradwr Cymraeg a Saesneg dwyieithog,
- Yn meddu ar ymrwymiad cryf i faterion sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol, hawliau dynol, a chydraddoldeb a chynhwysiant, a dealltwriaeth ohonynt,
- Yn mwynhau gweithio fel aelod o dîm, gan ymgysylltu ag ystod eang o bobl, yn weithwyr proffesiynol ac yn gleientiaid y gwasanaeth,
- Yn dymuno sicrhau cymhwyster Lefel 2 mewn Eiriolaeth Annibynnol, gyda’r cyfle i ymestyn i gymhwyster Lefel 4 maes o law;
Efallai eich bod chi yn meddu ar y sgiliau gofynnol ar gyfer y rôl hwn.
Tâl rhagorol a threfniant gweithio hyblyg, ynghyd â chyfleoedd i ddatblygu eich rôl a chyfleoedd hyfforddiant helaeth.
Am ddisgrifiad swydd llawn a phecyn ymgeisio, cysylltwch ag admin@advocacywestwales.org.uk
I ddysgu mwy am y rôl ac am ein gwaith, trowch at: www.advocacywestwales.org.uk
Cydlynydd Digwyddiadau ac Allgymorth
Cyflog: £21,589 y flwyddyn, pro-rata
Math o gontract: Tymor penodol (Cyfnod Mamolaeth) tan mis Orffennaf 2022
Oriau: 37 awr yr wythnos
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o elusen sy’n hwyluso ac yn galluogi Gofalwyr i fwynhau mwy o ymdeimlad o les. Bydd y rôl yn cynnwys trefnu gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfed gofalwyr di-dâl o bob oed ac i ddarparu cefnogaeth 1:1 ar gyfer nifer bach o Ofalwyr Oedolion Ifanc rhwng 16-25 oed.
Mae hon yn swydd cyfnod penodol Cyfnod Mamolaeth tan Orffennaf 2022 ac mae angen archwiliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda gwiriad gwahardd oedolion.
Am unrhyw ymholiadau ffoniwch: 0300 0200 002
Neu e-bostiwch: hrenquiries@ctcww.org.uk
Gweithiwr Cymorth Gofalwyr
Rydym yn recriwtio!
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru yn elusen ddielw sy’n gweithio i gefnogi Gofalwyr Di-dâl yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Rydym yn chwilio am weithwyr o’r un anian i ymuno â ni fel ‘Gweithwyr Cymorth Gofalwyr‘ i helpu’r rhai mewn angen gan weithio yn y dydd, nosweithiau, a phenwythnosau – gallwn gynnig hyblygrwydd i chi ar ein rota, gan gynnwys swyddi llawn amser, rhan-amser ac i ffitio o gwmpas gofal plant.
Beth mae’r rôl hon yn ei olygu?
Byddwch yn ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi neu’n eu cynorthwyo i fynd allan yn y gymuned, gan ddarparu gwasanaethau gofal a helpu i gynnal eu lles a’u hannibyniaeth. Bydd angen car arnoch i ymweld â nhw, ond rydyn ni’n ad-dalu teithio dros swm penodol o filltiroedd (45c y filltir).
Does gen i ddim profiad yn ofal, oes ots am hynny?
Mae ein Gweithwyr Cymorth Gofalwyr yn mynychu cyfnod sefydlu cynhwysfawr ac yn cysgodi gydag aelodau staff profiadol eraill cyn darparu gofal yn unig, a chefnogir yr holl Weithwyr Cymorth Gofalwyr i gwblhau Lefelau 2 a 3 QCF mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yr hyn sydd bwysicaf yw os ydych chi’n berson ymroddedig a gofalgar, yna rydyn ni am glywed gennych chi!
Pam gweithio i ni?
Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cyfeillgar a chroesawgar yn ogystal â;
- Oriau Gweithio Hyblyg
- Cyfraddau Cyflog Cystadleuol – £18,278 y flywddyn, yn seiliedig ar amser llawn, ynghyd â chyfraddau tâl uwch ar benwythnosau a thasgau arbenigol
- Hyfforddiant a Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd am ddim
- Cyfle i astudio Cymwysterau a Dilyniant Gyrfa o fewn y Cwmni
- Tâl Gwyliau
- Pensiwn Cyfrannol
- Cerdyn disgownt
- Cwnsela a Chefnogaeth Gweithwyr am ddim
Sut mae gwneud cais?
Isod yw’r Disgrifiad Swydd a Manyleb Person ar gyfer rôl Gweithiwr Cefnogi Gofalwyr. Gallech lawr-lwytho ffurflen gais a danfon dros e-bost i hrenquiries@ctcww.org.uk
Fel arall, cysylltwch â ni os hoffech chi becyn cais gael ei anfon atoch drwy’r post.