Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru Cyf. Yn elusen gofrestredig (Rhif 1121666) gyda swyddfeydd yng Nghaerfyrddin a Llanelli. Rydym yn bartner rhwydwaith i’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, yr elusen genedlaethol fawr sy’n cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i ofalwyr.
Mae ein gwasanaethau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y Gofalwr unigol a’u teulu, gan weithio ochr yn ochr â gwasanaethau cymunedol lleol eraill.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru yn sefydliad gwirfoddol arbenigol sy’n darparu cefnogaeth i Ofalwyr, gan roi amser iddynt fod eu hunain.
Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Sir Gâr
Mae gofalwyr yn dweud bod mynediad at wybodaeth, cymorth ariannol a seibiannau gofal yn hanfodol i’w helpu i reoli effaith gofalu ar eu bywydau.
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol am ddim i Ofalwyr.
Rydym yn cynhyrchu ac yn dosbarthu gwybodaeth i ofalwyr ac yn trefnu digwyddiadau rheolaidd mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.
Ariennir y gwasanaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cyhoeddiad
Grŵp Cymorth Gofalwyr Sir Gâr
Yn unol â’r newidiadau diweddar i ganllawiau Llywodraeth Cymru, rydym wedi penderfynu atal ein Grwpiau Cymorth Gofalwyr wyneb yn wyneb misol yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror, a bydd grŵp cymorth ar-lein yn lle’r cyfarfodydd tan ddiwedd Chwefror – cysylltwch â’ch Gweithiwr Allgymorth neu’r Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr ar 0300 0200 002 i gael mwy o fanylion neu i gael cymorth i ymuno â ni ar-lein.
Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir ac rydym yn gobeithio y byddwch chi’n gallu ymuno â’n cyfarfod grŵp ar-lein.
Newidiad enw sefydliadol
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Sir Gâr yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn ail-frandio ac yn newid ein henw elusennol i “Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru” ar y 1af o Ebrill 2021.
Gwasanaethau rydyn yn darparu
Cynlluniau
Chwarae
Mae gennym glybiau haf, clybiau penwythnos a chlybiau ar ôl ysgol i blant gydag anghenion ychwanegol
Beth rydych chi wedi dweud amdanom ni
The service you offer is great, the staff are always friendly and polite. They always respect the client and their needs. I would definitely recommend Crossroads.
EXCELLENT IN EVERY RESPECT. The office staff are always helpful and approachable and ready to discuss out situation (e.g. if a visit should have to be cancelled by us at short notice or any reason).
I can only speak highly of every one of the ladies that have been here from Crossroads. Everyone is very kind and caring. I’m very grateful to them all for all their support.
Dad enjoys the carers staying in the afternoon. He has a few favourite ones, you can hear the laughter coming from his bedroom.
I know I can leave my mother in the safe hands of Crossroads staff giving me peace of mind while I am away.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru yn aelod rhwydwaith balch o Ymddiriedolaeth Gofalwyr.
Mae teuluoedd a phobl yn y gymuned wedi adnabod a defnyddio Gofal Croesffyrdd ers blynyddoedd lawer. Rydym yn falch o ddarparu gwybodaeth i ofalwyr am y cymorth sydd ar gael iddynt a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Os hoffech gael cefnogaeth neu gyngor, cysylltwch â:
01267 220 046 – Swyddfa Caerfyrddin